|
CEIRIOG CEIRIOG JOHN CEIRIOG HUGHES CYNHWYSIAD. Rhagymadrodd Nant y Mynydd Meddyliau am y Nefoedd Mae John yn mynd i Loegr Bugail yr Hafod Ti wyddost beth ddywed fy nghalon Y fenyw fach a'r Beibl mawr Dychweliad y Cymro Addfwyn fiwsig Y Carnadau Bugeilio'r Gwenith Gwyn Mae'n Gymro byth Mi welaf mewf adgof Dim ond unwaith Y march ar gwddw brith Y Ferch o'r Scer Pa le mae'r hen Gymry Maes Crogen Tros y Garreg Bardd yn ei Awen Codiad yr haul Llongau Madog Serch Hudol Breuddwyd y Bardd Corn y Gad Dafydd y Garreg Wen Toriad y Dydd Yr Eneth Ddall Codiad yr Hedydd Ar hyd y Nos Morfa Rhuddlan Dim ond dechreu Difyrrwch Gwyr Harlech Trot y Gaseg Llances y Dyffryn Yn Ynys Mon Cadlef Morgannwg Mwyn yw myned tua Mon Hun Gwenllian Ar ddol pendefig A laeswn ni ddwylaw Llwybr y Pererin Bedd Llywelyn A ddywedaist ti fod Cymru 'n dlawd Peidiwch byth a dwedyd hynny Dydd trwy 'r ffenestr Cerddi Cymru I gadw 'r hen wlad Myfi sy'n magu 'r baban Tua Thegid dewch Hen gwrwg fy ngwlad Pob rhyw seren fechan wenai Claddedigaeth Morgan Hen Myfanwy Gofidiau Serch Wrth weld yr haul yn machlud Y fodrwy briodasol O weddi daer Y baban diwrnod oed Y fam ieuanc Ceisiais drysor Y fynwent yn y coed Claddasom di Elen Annie Lisle Y defnyn cyntaf o eira Cavour Y milwr na ddychwel Garibaldi a charcharor Naples Glogwyn anwyl Ffarwel iti Gymru fad Tros un o drumiau Berwyn Dychweliad yr hen filwr Trwy wledydd dwyreiniol Y Garreg Wen Tuag adre Beibl fy mam Alun Mabon RHAGYMADRODD. Ar un o lethrau'r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a'i hiraeth am fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd tra ym mwg a thwrw Manceinion roddodd fod i'w gan pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf. Mab Richard a Phoebe Hughes Pen y Bryn Llanarmon Dyffryn Ceiriog oedd John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain 1832. Aeth i'r ysgol yn Nant y Glog ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol trodd tua Chroesoswallt yn 1848 i swyddfa argraffydd. Oddiyno yn 1849 aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel a chyfarfod llenyddol a chwmni rhai fel Idris Vychan oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac alawon Cymru. ...
|